Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Agenda (185)v6 |
1 Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud) Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2. |
Cwestiwn Brys Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ganlyniadau’r modiwlau TGAU Saesneg a gafodd eu cymryd ym mis Ionawr?
|
2 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
|
3 Datganiad gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd: Moderneiddio Amaethyddiaeth yng Nghymru: Systemau ar-lein i Ffermwyr (30 munud) |
4 Datganiad gan y Gweinidog Cyllid: Cynnydd ar Wella Caffael Cyhoeddus (30 munud) |
5 Dadl: Yr Ail Gyllideb Atodol 2013-14 (30 munud) NDM5433 Lesley Griffiths (Wrecsam) Cynnig bod y Cynulliad, yn unol â Rheol Sefydlog 20.30, yn cymeradwyo'r Ail Gyllideb Atodol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2013-14 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ac a e-bostiwyd at Aelodau’r Cynulliad ddydd Mawrth, 11 Chwefror 2014. Troednodyn: Yn unol â'r darpariaethau perthnasol yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 a Rheol Sefydlog 20, mae'r Gyllideb Atodol yn cynnwys y wybodaeth ganlynol: (i) y datganiad ysgrifenedig sy’n ofynnol o dan adran 125(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru; (ii) yr adnoddau y cytunwyd arnynt gan y Trysorlys ar gyfer cyllideb bloc Cymru yn y flwyddyn ariannol y mae'r cynnig yn ymwneud â hi; (iii) cysoniad rhwng yr adnoddau a ddyrannwyd ar gyfer cyllideb bloc Cymru gan y Trysorlys a'r adnoddau yr awdurdodir eu defnyddio yn y cynnig; (iv) cysoniad rhwng y symiau amcangyfrifol sydd i’w talu i Gronfa Gyfunol Cymru gan yr Ysgrifennydd Gwladol a’r symiau yr awdurdodir eu talu o’r Gronfa yn y cynnig; a (v) cysoniad rhwng yr adnoddau i’w hawdurdodi o dan adran 125(1)(a) a (b) o’r Ddeddf a’r symiau yr awdurdodir eu talu o Gronfa Gyfunol Cymru o dan adran 125(1)(c). Mae'r wybodaeth ychwanegol isod wedi'i darparu i'r Aelodau: - nodyn yn egluro'r prif wahaniaethau rhwng y cynllun hwn a'r rhai blaenorol.
Dogfennau Ategol Ail Gyllideb Atodol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2013-14 Cyllideb Atodol Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2013-14 - Memorandwm Esboniadol Y Gwasanaeth Ymchwil, Papur Ymchwil ar yr Ail Gyllideb Atodol 2013-14
Adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar Graffu ar Gynnig y Gyllideb Atodol 2013-14 |
6 Cynnig o dan Reol Sefydlog 26.36 i amrywio trefn ystyried gwelliannau’r Cyfnod Adrodd i’r Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) (5 munud) NDM5446 Lesley Griffiths (Wrecsam) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.36: Yn cytuno i waredu’r adrannau a’r atodlenni i’r Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) yn y Cyfnod Adrodd yn y drefn ganlynol: a) adrannau 2-79 b) atodlen 1 c) adrannau 80 -137 d) atodlen 2 e) adrannau 138-173 f) atodlen 3 g) adrannau 174 – 194 h) adran 1 i)Teitl Hir |
Cyfnod Pleidleisio |
7 Dadl Cyfnod 3 o dan Reol Sefydlog 26.44 ar y Bil Addysg (Cymru) (120 mins) Yn unol â Rheol Sefydlog 26.36, mae’r gwelliannau i gael eu gwaredu yn y drefn y mae’r adrannau a’r atodlenni y maent yn cyfeirio atynt yn codi yn y Bil.
Mae’r gwelliannau wedi cael eu grwpio at ddibenion y ddadl a byddant yn cael eu trafod fel a ganlyn:
1.Enw Cyngor y Gweithlu Addysg 20, 2, 24, 25, 26 2. Nodau a swyddogaethau’r Cyngor 21, 3, 58 3. Hyfforddiant a datblygiad proffesiynol parhaus 49, 50, 54 4. Ffioedd cofrestru 51 5. Gweithdrefnau deddfwriaethol (argymhellion y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol) 28, 29, 30, 31, 32, 33, 34, 35, 36, 37, 38, 39, 40, 41, 42, 43, 44, 45, 46, 47, 48 6. Sefydlu a gwerthuso 4 7. Swyddogaethau disgyblu 22, 5, 6, 7, 23, 10 8. Deddf Addysg 1996: diffiniadau 8, 9, 11, 13, 14, 15, 16, 17, 18 9. Dyddiadau gwyliau ysgol 27 10. Cyllid ar gyfer grantiau 52, 53, 55 11. Ymestyn cofrestru ar gyfer gweithwyr ieuenctid 56, 57 12. Technegol 12 13. Teitl hir 19, 1 Dogfennau Ategol |
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mercher, 12 Mawrth 2014